

PERFFORMIAD 6
"Jo: Melangell"
Nid oes angen rhuthro. Mae gennych chi'r holl amser yn y byd.
Chi sy'n gyfrifol am sut rydych chi'n profi Llwybrau. Gallwch gerdded hanner y llwybr a dychwelyd i brofi'r gweddill ar ddiwrnod arall. Gallwch gerdded llwybr hollol wahanol. Gallwch ddewis yr opsiwn hygyrch. Gallwch wrando o'ch gardd neu ystafell wely neu dŷ gwydr.
Roeddwn i eisiau ymestyn llais Llwybrau a chynnwys lleisiau o bob rhan o Gymru. Dyna pam, ar gyfer y chwe pherfformiad Llwybr nesaf, y byddaf yn trosglwyddo'r awenau i un o chwe storïwr sy'n dod i'r amlwg ar draws y wlad. Ar gyfer y perfformiad hwn, rydyn ni'n mynd at Jo Munton, pypedwraig a storiwraig wedi'i lleoli ym Mhowis i glywed adroddiad o stori o'i phlentyndod, stori o hen wlad ei mamau.
Gallwch ddarganfod mwy am waith Jo yma.
Beth am gysylltu â Llwybrau a rhoi gwybod i ni ble gwnaethoch chi gerdded trwy'r stori hon?

Isod mae'r llwybr y cerddais i a dolenni i lawrlwytho'r pedwerydd perfformiad.

Llwybr ac Opsiynau

Mae Jo yn dweud: "Mae Pennant Melangell wedi bod yn bererindod ers cannoedd a miloedd o flynyddoedd. Cerddais o bentref Llangynog i Bennant Melangell. Mae hyn i gyd yn cerdded ar ffordd (heb ei defnyddio'n fawr), heb unrhyw bwyntiau serth ond dim llawer o lefydd pasio.
Ar ôl cyrraedd y fynwent efallai y byddwch chi'n dewis mynd ymlaen at y rhaeadrau. Mae hwn yn llwybr mwy peryglus gyda rhywfaint o gerdded lan bryniau serth iawn a'r posibilrwydd o lifogydd.
Mae marcwyr llwybr troed ond gallwch ddilyn eich trwyn hefyd. Gallwch eu gweld o'r man pererindod."
Dyma rai dolenni i deithiau cerdded posib:
Llwybrau Hygyrch
Mae'r llwybr uchod yn addas ar gyfer y mwyafrif o bobl sydd â lefel dda o ffitrwydd a symudedd. Gallai opsiynau hygyrch i gadeiriau olwyn gynnwys archwilio'r ffordd i Bennant Melangell o Llangynog, neu yrru'n syth i'r maes parcio bach yn Eglwys Sant Melangell a gwrando ar y stori yno.